Job Description

Assistant Coastal and Rivers Engineer

The Transport and Environment team at Pembrokeshire County Council have an Assistant Coastal and Rivers Engineer opportunity, working with the forward thinking Coastal, Rivers and Drainage Team. 

This is a full-time position, focusing initially on assisting in the assessing, development and delivery of schemes and initiatives that contribute to the duties of the Flood Risk Management Authority and Lead Local Flood Authority. The role will be involved in dealing with schemes related to planning and development advice, flood prevention and mitigation schemes and assisting in the development of SAB and SuDs development.

This is a key role continuing to build on the team’s achievements to date and the ongoing commitment to making Pembrokeshire a great place to live. Whilst previous experience and knowledge in the coastal, flood and drainage management field is desirable, we encourage and support development so a determination to learn and progress, seek out solutions and be self-motivated will be key.

Peiriannydd Arfordirol ac Afonydd Cynorthwyol

Mae gan dîm Trafnidiaeth ac Amgylchedd Cyngor Sir Penfro gyfle am swydd Peiriannydd Arfordirol ac Afonydd Cynorthwyol, i weithio gyda’r Tîm Arfordirol, Afonydd a Draenio blaengar. 

Swydd amser llawn yw hon, sy’n canolbwyntio i ddechrau ar gynorthwyo i asesu, datblygu a chyflawni cynlluniau a mentrau sy’n cyfrannu at ddyletswyddau’r Awdurdod Rheoli Perygl Llifogydd a’r Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol. Bydd y rôl yn cynnwys ymdrin â chynlluniau sy’n ymwneud â chyngor cynllunio a datblygu, cynlluniau atal a lliniaru llifogydd a chynorthwyo i ddatblygu Corff Cymeradwyo Systemau Draenio Cynaliadwy a datblygu systemau draenio cynaliadwy.

Mae hon yn rôl allweddol sy’n parhau i adeiladu ar gyflawniadau’r tîm hyd yma a’r ymrwymiad parhaus i wneud Sir Benfro yn lle gwych i fyw. Er bod profiad a gwybodaeth flaenorol ym maes rheoli arfordirol, llifogydd a draenio yn ddymunol, rydym yn annog ac yn cefnogi datblygiad, felly bydd penderfyniad i ddysgu a gwneud cynnydd, chwilio am atebion a bod yn hunangymhellol yn allweddol.